Dear Design for Performance Students,
First of all, I would like to congratulate you on receiving a place on the MA Design for Performance and I look forward to meeting you again in September.
You’ll shortly begin your studies with us and we will support you during the period of settling into a new way of working and studying.
I would also like to reassure you that we are planning for you to engage with your studies in September. We will prioritise new students to experience the best possible introduction to the College.
This is the beginning of what will be an intensive, enjoyable and ultimately rewarding passage of your life towards your chosen vocation. The emphasis is on all of those three areas, you have a lot to learn but with your commitment you should find the course challenging but ultimately satisfying, both educationally and socially. The course is as stipulated in open days and interviews, is an extremely demanding training programme. Each step challenges both your ability and your stamina, preparing you for employment in the very demanding areas of performance design.
We are a small tight-knit department, with a belief in the student’s educational and general well-being. The staff are accessible at all times and we run an open door policy which presents you with access to tutorial support on an informal as well as a formal basis. Be sure to use this facility if you have. In addition, the College has a discreet counselling service which is available at all times for your consultation. This may be of particular use in the first weeks, as the change of location and a new working environment can sometimes prove unsettling.
We don’t provide specific equipment lists for all MA students at this stage, you are advised to wait until you arrive on the first day of term and we can have a discussion about what you need for your selected pathway. Anything needed urgently will be provided.
The College can provide a basic starting toolbox for a discount price when you arrive, this will give you most of what you need to begin the course (please see the Design for Performance Equipment List). We will supply all materials and some tools for the initial classes but you will need to develop, during and certainly after the course, your own distinct tool box and equipment to suit your own specialist pathway.
Once again, I look forward to meeting you and your fellow students in person and I’ll talk to you all on your first day. Student Services should have been in contact and you will probably have begun the search for your accommodation – if you haven’t, make sure you do not leave it too late.
See you soon.
Yours sincerely
Sean Crowley (sean.crowley@rwcmd.ac.uk)
Head of Design / Pennaeth Cynllunio
Annwyl Fyfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio,
Yn gyntaf, hoffwn eich llongyfarch ar gael lle ar y cwrs MA Cynllunio ar gyfer Perfformio ac edrychaf ymlaen at eich cyfarfod chi eto ym mis Medi.
Yn fuan, byddwch yn dechrau eich astudiaethau gyda ni a byddwn yn eich cefnogi ynystod y cyfnod setlo i ffordd newydd o weithio ac astudio.
Cliciwch ar y ddolen i gael MA Design Equipment List 2021
Hoffwn hefyd eich sicrhau ein bod yn cynllunio i chi ymgysylltu â’ch astudiaethau ym mis Medi. Byddwn yn blaenoriaethu myfyrwyr newydd i gyflwyniad gorau posibl i’r Coleg.
Dyma dechrau ar gyfnod dwys, pleserus a gwerth chweil yn y pen draw tuag at eich alwedigaeth. Mae’r pwyslais ar bob un o’r tri adran hyn, mae gennych lawer i’w ddysgu ond gyda’ch ymroddiad dylech deimlo bod y cwrs yn heriol ond yn y diwedd yn bleserus, yn addysgol yn ogystal â chymdeithasol. Mae’r cwrs, fel y nodwyd yn y diwrnodau agored a’r cyfweliadau, yn rhaglen hyfforddi drwm iawn. Mae pob cam yn herio eich gallu a’ch stamina, gan eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ym meysydd trwm iawn cynllunio ar gyfer perfformio.
Rydym yn adran glos ac yn credu’n gryf yn addysg a lles cyffredinol y myfyriwr. Mae’r staff ar gael bob amser ac mae gennym bolisi drws agored felly gallwch gael cefnogaeth diwtorial anffurfiol a ffurfiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cyfleuster hwn os bydd ei angen arnoch. Hefyd, mae gan y coleg wasanaeth cwnsela cyfrinachol sydd ar gael ar bob adeg ar gyfer ymgynghoriad. Gall hwn fod o ddefnydd arbennig yn yr wythnosau cyntaf gan fod newid lleoliad ac amgylchedd gweithio newydd weithiau yn anodd.
Nid ydym yn darparu rhestrau offer penodol ar gyfer holl fyfyrwyr MA ar y cam hwn, fe’ch cynghorir i aros nes i chi gyrraedd ar ddiwrnod cyntaf y tymor a gallwn drafod beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y llwybr yr ydych wedi’i ddewis. Bydd unrhyw beth sydd ei angen ar frys yn cael ei ddarparu.
Gall y Coleg ddarparu blwch offer cychwynnol sylfaenol am bris gostyngol pan fyddwch yn cyrraedd, bydd hwn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r hyn fydd ei angen arnoch i ddechrau’r cwrs (gweler y Rhestr Offer Cynllunio ar gyfer Perfformio). Byddwn yn darparu’r holl offer a pheth o’r teclynnau ar gyfer y dosbarthiadau cyntaf ond bydd angen i chi ddatblygu, yn ystod ac yn bendant ar ôl y cwrs, eich blwch offer arbennig eich hun a’r cyfarpar sy’n addas i’ch llwybr arbenigol chi.
Unwaith eto edrychaf ymlaen at eich cyfarfod chi a’ch cyd-fyfyrwyr yn bersonol a byddaf yn siarad gyda chi i gyd ar eich diwrnod cyntaf. Dylai adran Gwasanaethau Myfyrwyr fod wedi cysylltu â chi ac rydych yn fwy na thebyg wedi dechrau chwilio am eich llety, os nad ydych wedi gwneud hynny gwnewch yn siŵr na fyddwch yn ei gadael yn rhy hir cyn gwneud.
Gweld chi yn fuan.
Yn gywir
Sean Crowley (sean.crowley@rwcmd.ac.uk)
Head of Design / Pennaeth Cynllunio